Gyda’r Chwe Gwlad Guinness yn cyrraedd wythnos o seibiant, dyma gyfle i fwynhau penwythnos prysur o rygbi Guinness PRO14, gyda’r pedwar rhanbarth yn chwarae. Bydd gan sawl chwaraewr bwynt i’w brofi ac mi fyddan nhw’n benderfynol o atgoffa Wayne Pivac ar beth mae’r garfan genedlaethol wedi methu allan arno. **Dydd Gwener 19 Chwefror** **Dreigiau v Leinster – CG 7.35pm** Yn gyntaf i chwarae bydd y Dreigiau, ac mi fyddan nhw’n croesawu’r pencampwyr Leinster i Rodney Parade. Er bod nifer sylweddol o’u sêr rhyngwladol i ffwrdd, mae’r garfan sydd wedi gwneud y daith dal yn cynnwys chwaraewyr o safon Jack Conan, Ryan Baird, Luke McGrath, Devin Toner a Scott Fardy. Gyda rhai chwaraewyr pwysig i ffwrdd gyda Chymru a sawl chwaraewr wedi ei anafu, bydd pac y Dreigiau dan bwysau aruthrol nos Wener, heb os. Bydd gobaith o weld yr wythwr mawr Dan Baker yn gwneud ei ymddangosiad cyntaf oddi ar y fainc ers ymuno o Stade Montois yn Ffrainc, tra bod y prop pen tynn pwerus Greg Bateman hefyd yn dychwelyd i’r maes ar ôl gwella o anaf. Does dim amheuaeth mai y tu ôl i’r pac mae prif fygythiad y Dreigiau, ble mae profiad a digon o gyflymdra. Os all Rhodri Williams a Sam Davies ganfod Ashton Hewitt, Jonah Holmes a Jordan Williams mewn gwagle, yna bydd gan y Dreigiau siawns wirioneddol o sgorio ceisiau. Ond bydd rhaid iddyn nhw fod yn barod i amddiffyn am gyfnodau hir yn erbyn y cewri o’r ynys werdd. Unwaith yn unig maen nhw wedi colli'r tymor hwn, ac mi fydd angen ymdrech arwrol gan y Gŵyr Gwent os am iddyn nhw newid hynny. **Dydd Sadwrn 20 Chwefror** **Scarlets v Benetton – CG 3.00pm (I’w weld am 3.40pm ar ddydd Sul ar S4C)** Mae’n saff dweud na chafodd y Scarlets ddechrau da i 2021. Ar ôl colli dwy gêm ddarbi yn olynol yn erbyn Gleision Caerdydd, fe gawson nhw grasfa o 52 bwynt i 25 gartref yn erbyn Leinster ar ddiwedd mis Ionawr. Bydd y garfan wedi cael digon o amser i adlewyrchu ar y canlyniadau siomedig yno ac mi fyddent yn sicr wedi ceisio cryfhau yn yr ardaloedd ble oedden nhw’n ddiffygiol fis diwethaf. Eto, gyda nifer o chwaraewyr i ffwrdd gyda Chymru a digon o anafiadau yn ogystal, bydd cyfle i’r chwaraewyr ar gyffiniau’r garfan i greu argraff. Bydd disgwyl gweld Steff Hughes, Steff Evans, Johnny McNicholl, Sione Kalamafoni ac Uzair Cassiem yn arwain yr ymdrech yn erbyn Benetton. Gyda’r ras am le yng Nghwpan Pencampwyr Ewrop tymor nesaf yn bell o fod drosodd, mae angen canlyniad positif ar y Scarlets yn erbyn yr Eidalwyr ystyfnig. **Gweilch v Zebre – GG 5.15pm (Yn Fyw ar S4C)** Fel y Scarlets, bydd y Gweilch yn ymestyn croeso i dîm o’r Eidal hefyd, wrth iddyn nhw fynd benben â Zebre yn y Stadiwm Liberty nos Sadwrn, mewn gêm fydd i’w gweld yn fyw ar S4C. Mae lot fawr o ganmoliaeth wedi dod i’r Ospreyliaid eleni yn sgil y gwellhad amlwg yn eu canlyniadau ers siom fawr y tymor diwethaf. Ond bydd y prawf go iawn yn cychwyn y penwythnos yma. Gyda’u sêr rhyngwladol i ffwrdd yng ngharfan Cymru, bydd disgwyl i’r rhai sydd yn cymryd eu lle yn y tîm i godi i’r safon. Yn ffodus, mae digon o hen bennau yn y garfan i arwain y tîm ymlaen, megis Sam Parry, Rhys Webb a Dan Evans. A gydag olwyr tanbaid fel Matt Protheroe, Keelan Giles a Luke Morgan hefyd ar gael, yn sicr mae ganddynt yr holl gynhwysion sydd ei angen i sgorio ceisiau. Bydd rhaid dangos parch i Zebre – yn enwedig gan ystyried eu bod eisoes wedi trechu’r Gweilch o 23 bwynt i 17 yn gynharach y tymor hwn. Ond wedi iddyn nhw ennill tair allan o dair hyd yma yn 2021, mi fydd y Gweilch yn benderfynol o barhau gyda’u rhediad da. **Connacht v Gleision Caerdydd – CG 7.35pm (I’w weld am 10pm ar nos Lun ar S4C)** 812 diwrnod. Dyna pa mor hir roedd rhaid i Ellis Jenkins ddisgwyl i ddychwelyd i’r maes, mewn gêm gyfeillgar yn erbyn y Gweilch wythnos ddiwethaf, ar ôl dioddef anaf ddifrifol iawn i’w ben-glin wrth chwarae dros Gymru yn Nhachwedd 2018. Fe lwyddodd y blaenasgellwr i chwarae 40 munud a sgorio cais wythnos ddiwethaf ac mae disgwyl gweld e’n dychwelyd i’r Guinness PRO14 i Gleision Caerdydd y penwythnos hwn. Dyw gemau yn Galway byth yn hawdd i’r tîm oddi cartref, ac mae hon yn gêm arwyddocaol i’r ddau dîm. Gyda Connacht yn ail yn Adran B a’r Gleision yn drydydd, mi fyddai buddugoliaeth i’r naill dîm yn hwb fawr i’w gobeithion o hawlio lle yng Nghwpan y Pencampwyr y tymor nesaf. Mae’r ddau dîm yn hoff o drafod a lledu’r bêl, ac mi fydd cefnogwyr y Gleision yn gobeithio gweld Owen Lane, Matthew Morgan ac Aled Summerhill yn cael eu dwylo arno ddigon aml. Ond gyda Dai Young nawr wrth y llyw, mi fydd pwyslais mawr ar y pac i ennill goruchafiaeth yn y mannau gosod ac yn ardal y gwrthdaro. Os allen nhw gyflawni hynny, mae cyfle gwirioneddol am drydedd fuddugoliaeth o’r bron.